Dyddiad yr Adroddiad

09/09/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Draenio/Carthffosydd/Cylfatiau

Cyfeirnod Achos

202602436

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am broblem gyson gyda system ddraenio ei eiddo, gan gynnwys draeniau wedi’u rhwystro. Dywedodd Mr A ei fod wedi bod yn rhoi gwybod i’r Cyngor am broblemau ers blynyddoedd, ac nad oedd y gwaith atgyweirio a wnaed wedi datrys y mater.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y gwaith atgyweirio a wnaeth y Cyngor yn eiddo Mr A wedi mynd i’r afael yn llawn â’r problemau yr oedd wedi’u profi, ac roedd angen gwaith atgyweirio ychwanegol ar siafft archwilio gerllaw. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, a chafodd eu cytundeb, i wneud y canlynol o fewn pythefnos: ymddiheuro i Mr A; rhoi amserlen a threfn amser ysgrifenedig iddo ar gyfer y gwaith arfaethedig; ac ymrwymo i fonitro ei system ddraenio yn rhagweithiol nes bod achos y rhwystrau wedi’i ddatrys.