Cwynodd Mr A am yr ymateb a gafodd gan y Cyngor yn dilyn cwblhau ymchwiliad Cam 2 gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch pryderon diogelu yr oedd wedi’u codi.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi sicrhau bod ymchwilydd annibynnol wedi cynnal ymchwiliad i gwyn Mr A, nad oedd yr ymateb yn cynnwys unrhyw ymddiheuriadau am yr agweddau y canfuwyd eu bod wedi’u cadarnhau’n rhannol; ni ddarparwyd manylion penodol na chynllun gweithredu mewn perthynas â’r pwyntiau dysgu a nodwyd; ac ni chynigiwyd cyfle i Mr A drafod canfyddiadau’r adroddiad. Penderfynodd setlo’r gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i anfon ymateb pellach at Mr A o fewn pythefnos. Yn yr ymateb hwn, bydd y Cyngor yn cynnig ymddiheuriadau, yn egluro’r gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r pwyntiau dysgu, ac yn cynnig cyfle iddo drafod yr ymateb a’r adroddiad gyda swyddog priodol.