Dyddiad yr Adroddiad

04/06/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Diogelu

Cyfeirnod Achos

202600704

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd y deliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf â materion sy’n ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol Plant. Roedd pryderon Mr A yn cynnwys methiannau honedig a oedd yn ymwneud â phryderon diogelu. Mynegodd bryderon newydd hefyd; nid oedd yn ymddangos bod y rhain wedi cael eu hystyried o’r blaen.

Canfu’r Ombwdsmon fod cwyn Mr A yn ymwneud ag ymchwiliad diogelu yn cynnwys penderfyniad aml-asiantaeth ac felly nid oedd yn addas i’w hystyried o dan drefn gwyno gwasanaethau cymdeithasol y Cyngor, nac i’w hystyried ymhellach gan yr Ombwdsmon. Er bod y Cyngor wedi ymateb i rai o’r pryderon a oedd yn weddill, nid oedd wedi rhoi cyfle i Mr A fwrw ymlaen â’i gŵyn yn ffurfiol o dan y broses statudol, ac roedd pryderon ychwanegol wedi cael eu codi yr oedd angen eu hegluro. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu â Mr A, o fewn 2 wythnos, i egluro a chytuno ar gwmpas ei gŵyn, a chadarnhau, lle darperir eglurhad digonol, y bydd y pryderon yn cael eu hystyried o dan Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.