Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd bod ymddygiad yr Aelod yn ystod y cyfnod cyn pleidlais y Cyngor ar ei Gynllun Datblygu Lleol yn amharchus ac yn ddilornus tuag at swyddogion y Cyngor; bod yr Aelod wedi ceisio dylanwadu’n amhriodol ar bleidlais aelodau eraill o’r Cyngor ac wedi methu â datgelu buddiant personol a rhagfarnus yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Honnwyd ymhellach bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiant personol a rhagfarnus yn ystod cyfarfod o’r Cyngor ar 24 Ionawr 2023, lle pleidleisiodd y Cyngor i gymeradwyo’i Gynnlun Datblygu Lleol.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor. Cafodd y tystion, gan gynnwys yr Achwynydd, eu cyfweld. Cafwyd gwybodaeth gan yr Aelod, a gafodd gyfweliad hefyd.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymddygiad yr Aelod yn y cyfnod cyn pleidlais y Cyngor ar ei Gynllun Datblygu Lleol yn gyfystyr â thorri’r Cod.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr Aelod wedi datgan buddiant personol yn ymwneud â’r Cynllun yn ystod y cyfarfod ar 24 Ionawr 2023. Fodd bynnag, nid oedd wedi datgan buddiant rhagfarnus yn briodol. Canfuwyd felly bod ei ymddygiad yn awgrymu ei fod wedi torri’r Cod.
Wrth ystyried a oedd methiant yr Aelod i ddatgan buddiant personol a rhagfarnus yn briodol yn y Cynllun Datblygu Lleol yn teilyngu gweithredu pellach, ystyriwyd y cyngor a roddwyd i’r Aelod gan y Swyddog Monitro, yn ogystal â gwrthodiad yr Aelod i dderbyn y cyngor, a oedd yn ffactor gwaethygol.
Ystyriwyd hefyd bod yr aelod yn un cymharol newydd o’r Cyngor ar adeg y digwyddiadau ac er bod ei fethiant i ddatgan buddiant rhagfarnus yn cael ei ystyried yn achos difrifol o dorri’r Cod, nodwyd nad oedd ei gyfranogiad yn y cyfarfod wedi effeithio ar benderfyniad terfynol y Cyngor ar y Cynllun Datblygu Lleol.
Nodwyd bod yr Aelod wedyn wedi gwneud cais i’r Pwyllgor Safonau am oddefeb ynglŷn â’r cais cynllunio perthnasol, gan ddangos gwell ymwybyddiaeth o’i rwymedigaethau o dan y Cod, ac ymddygiad priodol dilynol ynglŷn â buddiannau, yn debygol yn dilyn y cyngor clir a gafwyd gan y Swyddog Monitro.
Am y rhesymau hyn, canfu’r Ombwdsmon nad oedd dim angen gweithredu pellach yng nghyswllt y materion oedd yn destun yr ymchwiliad. Fodd bynnag, dywedwyd wrth yr Aelod i fyfyrio ar y Cod a chanllawiau’r Ombwdsmon yn ofalus, er mwyn cryfhau ei ddealltwriaeth o’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau etholedig pan fydd buddiannau personol a rhagfarnus yn berthnasol. Awgrymwyd hefyd bod yr Aelod yn cael hyfforddiant gloywi ar ei ddyletswyddau o dan y Cod, i sicrhau ei fod yn glir pan fydd buddiannau personol a rhagfarnus yn codi ac ynglŷn a’i rwymedigaethau o dan y Cod mewn sefyllfaoedd o’r fath.