Dyddiad yr Adroddiad

07/05/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Datblygiadau heb ei awdurdodi - galw am gamau gorfodi a.y.y.b

Cyfeirnod Achos

202511004

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu ag ymateb i’w chwyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cydnabod cwyn Mrs A nac ymateb iddi. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn 3 wythnos, yn cynnig ymddiheuriad ac esboniad i Mrs A, yn cyflwyno ymateb i’r gŵyn ac yn cynnig taliad iawndal ariannol o £100 i gydnabod y methiant i ymateb i gŵyn Mrs A, ac am yr amser a’r drafferth o wneud cwyn i’r Ombwdsmon.