Cwynodd Mr A oherwydd ei fod yn anfodlon nad oedd wedi derbyn ymateb i gwyn gan Gartref Gofal yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Cartref Gofal”).
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod Mr A wedi cyflwyno cwyn i’r Cartref Gofal ym mis Mai 2026, ond nad oedd wedi derbyn ymateb eto. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cartref Gofal i ymddiheuro i Mr A o fewn pythefnos, cydnabod y byddai ymateb i’r gwyn yn cael ei ddarparu, a darparu ymateb o fewn mis.