Cwynodd Mr A am ymateb Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r problemau hirsefydlog a gododd am ddŵr glaw ar ei eiddo. Roedd yr Awdurdod hefyd wedi gwrthod ymchwilio i’w gŵyn ffurfiol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Awdurdod fod wedi ymchwilio i gŵyn Mr A yn unol â’i bolisi cwynion. Dywedodd fod penderfyniad yr Awdurdod yn hyn o beth wedi achosi rhwystredigaeth ac oedi ychwanegol i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Awdurdod i ymddiheuro i Mr A, ymchwilio i’w gŵyn, datrys unrhyw broblemau a nodir, a chadarnhau unrhyw gamau sydd i’w cymryd ynghyd ag amserlenni, o fewn 4 wythnos.