Dyddiad yr Adroddiad

06/12/2023

Achos yn Erbyn

Trivallis

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202301057

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss L fod Trivallis wedi methu gweithredu ar bryderon ynghylch eiddo tamp, wedi llwydo. Cwynodd hefyd fod y gwaith wedi’i ohirio ac wedi achosi difrod pellach i’w heiddo.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y bu oedi sylweddol cyn datrys pryderon Miss L a’i fod wedi methu cwblhau gwaith a addawyd yn brydlon. Daeth i’r casgliad hefyd fod angen ymchwilio i bryderon heb eu datrys a dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Miss L am yr oedi, i ymchwilio ac asesu unrhyw waith pellach sydd ei angen ar yr eiddo, i ddarparu ymateb pellach i’r gŵyn, ac i roi taliad amser a thrafferth o £100 o fewn 30 diwrnod gwaith.