Dyddiad yr Adroddiad

03/09/2023

Achos yn Erbyn

Pobl

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202207628

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L nad oedd y gwaith atgyweirio sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers 4 blynedd wedi cael ei wneud eto. Cwynodd Mr L hefyd, er iddo godi nifer o bryderon gyda Pobl, nad oedd wedi ymateb.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Gymdeithas wedi methu cyflawni atgyweiriadau’n brydlon a’i bod wedi methu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr L. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Mr L am yr oedi a’r methiant cyfathrebu, rhoi diweddariad ac amserlen iddo ar gyfer y gwaith atgyweirio, a rhoi taliad amser a thrafferth o £100 o fewn 30 diwrnod gwaith.