Dyddiad yr Adroddiad

10/23/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Benfro

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202304238

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B ynglŷn â gwaith oedd yn parhau heb ei gwblhau gan y Cyngor yn ei eiddo. Dywedodd Mr B ei fod wedi codi’r mater sawl tro ond nad oedd wedi derbyn dyddiad pryd y byddai’r Cyngor yn cwblhau’r gwaith.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunwyd y byddai’r Cyngor yn:

• Darparu dyddiad cwblhau i’r achwynwr ar gyfer cwblhau’r gwaith sy’n weddill (ail-addurno wal yn y gegin.

Cysylltodd y Cyngor â’r achwynwr a chytunwyd ar ddyddiad i gwblhau’r gwaith.