Dyddiad yr Adroddiad

03/03/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202207652

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms L fod y Gymdeithas Dai wedi methu darparu ymateb i gŵyn am y pryderon a godwyd ganddi ym mis Rhagfyr 2022. Cwynodd Ms L hefyd nad oedd gwaith atgyweirio wedi cael ei wneud er gwaethaf yr addewidion i’w wneud.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Gymdeithas wedi cyhoeddi ymateb i gŵyn ac nad oedd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms L am unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms L.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Ms L, cyhoeddi ymateb i’r gŵyn a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y materion atgyweirio sydd heb eu datrys o fewn 30 diwrnod gwaith.