Cwynodd Mr A nad oedd wedi derbyn ymateb i gŵyn Cam 2 gan Gyngor Sir Powys, o fewn yr amserlenni a ddiffiniwyd.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb Cam 2 wedi’i gyhoeddi i Mr A o fewn yr amserlenni. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi gadael Mr A gyda chwestiynau heb eu hateb ynghylch ei gŵyn i’r Cyngor. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi’r ymateb i gŵyn Cam 2 o fewn 4 wythnos, gan gynnwys esboniad ac ymddiheuriad am yr oedi.