Dyddiad yr Adroddiad

15/06/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202600295

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â’i chŵyn am faterion sy’n ymwneud â diffyg cydymffurfio â cheisiadau cynllunio.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Miss A wedi cael ymateb manwl ffurfiol i’w chŵyn gan y Cyngor. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ymateb mwy manwl i’r gŵyn, gan egluro pa brosesau a ddilynwyd, pam gamau gorfodi a ystyriwyd/cymerwyd, a’r rhesymeg sy’n arwain penderfyniadau o’r fath.