Cwynodd Mrs A am fod garej wedi’i hadeiladu’n agos at ei heiddo.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn llawn i’r pryderon a godwyd a dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor’ i ysgrifennu at yr achwynydd, o fewn 2 wythnos, i egluro’r pwynt a godwyd gan Mrs A ac i roi gwybodaeth am sut i roi gwybod am doramod cynllunio newydd ar ôl i’r adeilad gael ei gwblhau.