Cwynodd Mrs A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu ag ymateb i bob agwedd ar gŵyn roedd wedi’i chyflwyno iddo ym mis Rhagfyr 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i bob agwedd ar y gŵyn o fewn yr amserlen berthnasol ac roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi esboniad ac ymddiheuriad i Mrs A am yr oedi cyn ymateb i’w chŵyn, ac i roi ymateb llawn i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.