Dyddiad yr Adroddiad

06/09/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202300770

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn ffurfiol i’w gŵyn na gohebiaeth bellach am 5 mis.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr A wedi cael ymateb ac ynglŷn â methiant y Cyngor i lynu wrth ei bolisi cwynion. Ymatebodd y Cyngor i’r gŵyn ac ymddiheuro i Mr A am yr oedi. Cadarnhaodd fod adnoddau ychwanegol wedi’u rhoi ar waith i osgoi problemau tebyg yn y dyfodol.

Ar sail y camau a gymerwyd eisoes, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu taliad amser a thrafferth o £100 i Mr A, o fewn mis, i gydnabod yr anghyfleustra a achoswyd. Cafodd y cam hwn ei dderbyn yn lle ymchwiliad.