Cwynodd Mr A am ymateb Cyngor Caerdydd i’w gŵyn am ei gynllun taliadau ar gyfer y dreth gyngor.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor, yn dilyn e-bost Mr A, wedi rhoi dim gwybodaeth iddo am sut i gyflwyno cwyn ffurfiol na sut i gofnodi ac ymateb i’w bryderon o dan ei broses gwyno. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr A am beidio rhoi sylw i’w bryderon drwy Bolisi Sylwadau, Cwynion a Chanmoliaeth Corfforaethol y Cyngor a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn o fewn 4 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.