Cwynodd Mr H am ansawdd gwersi nofio ei ferch a methiant Cyngor Sir Caerfyrddin i ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Hydref 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cydnabod cwyn Mr H ym mis Hydref 2025 ac wedi methu ag ymateb, a dywedodd fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth i Mr H. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr H am fethu ag ymateb i’w gŵyn, i egluro iddo pam na chyhoeddwyd ymateb, ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn Cam 2 o fewn 4 wythnos.