Cwynodd Ms A am y ffordd roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi ymdrin â’i chais am dŷ a’r apêl, ynghyd â’r ffordd yr oedd wedi delio a’i chŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i gŵyn Cam 1 Ms A, a bod ei ymateb Cam 2 i’r gŵyn wedi methu â mynd i’r afael yn rhesymol â’r materion roedd hi wedi’u codi am ei chais a’i hapêl. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch cywirdeb peth o’r wybodaeth yr oedd y Cyngor wedi’i darparu. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms A am y methiannau a nodwyd, ailystyried ei chŵyn, a rhoi ymateb llawn i ddatrys unrhyw broblemau a nodwyd, a chynnig cyfle i Ms A drafod yr ymateb, o fewn 4 wythnos.