Cwynodd Mr a Mrs A am y camau a gymerwyd gan y Cyngor ynghylch eu sefyllfa dai a’r ffordd yr ymdriniodd â’u cwyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi darparu ymateb rhesymol i fynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd gan Mr a Mrs A ynghylch dyrannu tai, darparu llety dros dro a materion sy’n ymwneud â chostau storio a symud. Fodd bynnag, nid oedd wedi darparu ymateb llawn i’w pryderon ynghylch y camau a gymerwyd gan y Cyngor ynghylch budd-dal tai ac ôl-ddyledion rhent. Ar ben hynny, nid oedd Mr a Mrs A wedi cael ymateb i bryderon a fynegwyd ynghylch sut roedd y Cyngor wedi delio â’u cwyn.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymateb i Mr a Mrs A i’w cwyn am faterion yn ymwneud â budd-dal tai ac ôl-ddyledion rhent. Cytunodd hefyd i adolygu’r prosesau perthnasol ar gyfer delio â chwynion er mwyn dysgu o’r problemau a gafwyd yn yr achos hwn a rhoi esboniad ac ymddiheuriad i Mr a Mrs A am y ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r camau hyn o fewn 4 wythnos.