Dyddiad yr Adroddiad

20/06/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Ceisiadau / dyraniadau / trosglwyddo / cyfnewidiadau

Cyfeirnod Achos

202501847

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu ag ystyried addasiadau rhesymol yn ymwneud â’i gyflyrau iechyd, drwy beidio ag ystyried yn briodol ei gais am drosglwyddo i eiddo tenantiaeth Partneriaeth Tai Cymru mwy o faint, pe bai un ar gael.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Tai i bob golwg yn gweithio gyda Mr A i ddatrys y sefyllfa a datblygu polisi mewnol, oherwydd gwybodaeth gwrthgyferbyniol a ddarparwyd i Mr A yn wreiddiol, roedd yn ymddangos bod hyn wedi cymryd mwy o amser nag oedd angen. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai y byddai’n anfon ymateb pellach i’r gŵyn at Mr A o fewn pythefnos, a ddylai gynnig ymddiheuriad, amlinellu’r camau yr oedd yn eu cymryd o ran datblygu ei pholisi mewnol a chadarnhau unrhyw gamau yr oedd yn ofynnol i Mr A eu cymryd.