Dyddiad yr Adroddiad

06/21/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Ceisiadau. Dyraniadau. Trosglwyddo a chyfnewidiadau

Cyfeirnod Achos

202105731

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cafodd mab Ms A ei eni’n gynamserol gyda phroblemau iechyd, chwalodd ei pherthynas a bu’n rhaid gwerthu’r tŷ a oedd yn eiddo ar y cyd. Ar 31 Mai 2019, cyflwynodd Ms A gais am dŷ gyda dogfennau ariannol ategol i Dîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd. Eglurodd Ms A fod ei thŷ yn cael ei farchnata i’w werthu a bod eiddo tebyg yn cael ei werthu o fewn 4 wythnos. Dywedodd y byddai cael tŷ arall yn ei hatal rhag bod yn ddigartref ac anfonodd dystiolaeth feddygol yr Ymwelydd Iechyd a’r meddyg teulu am ei hiechyd meddwl a chyflwr meddygol ei mab. Ar 2 Awst cafodd Ms A ei hasesu gan Uned Ddigartrefedd y Cyngor a phenderfynwyd bod dyletswydd i atal digartrefedd. Galwodd Ms A y Cyngor sawl gwaith am ddatblygiad tai newydd. Daeth yn ymwybodol nad oedd y Tîm Opsiynau Tai wedi trosglwyddo tystiolaeth feddygol ei mab i’r Uned Ddigartrefedd, a oedd wedi’i hanfon ymlaen ganddi ar 1 Hydref. Ar 1 Hydref anfonodd y Cyngor lythyr o dan a68 o Ddeddf Tai 2014, dyletswydd i sicrhau llety dros dro.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ystyried ac asesu cais Ms A am dŷ yn briodol yn unol â’r gyfraith a’r canllawiau perthnasol. Pe bai hyn wedi digwydd a phe bai’r wybodaeth feddygol yr oedd wedi’i darparu wedi cael ei hanfon at Uned Ddigartrefedd y Cyngor yn brydlon, roedd hi’n bosib y byddai wedi cael yr hysbysiad o ddyletswydd o dan adran 68 yn gynt. Yn ei dro, pe bai’r wybodaeth feddygol wedi cael ei hanfon ymlaen yn gynt, gallai hyn fod wedi golygu y byddai Ms A wedi cael ei rhoi mewn band tai uwch yn gynharach. Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb y Cyngor i’r gŵyn wedi methu nodi’r methiannau ac felly nad oedd wedi bod yn briodol. Cafodd yr agweddau hyn ar y cwynion eu cadarnhau.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor, yn briodol ac mewn modd amserol, wedi rhoi cymorth ariannol i Ms A i dalu’r blaendal a mis o rent ymlaen llaw i sicrhau cartref rhent preifat. Ni chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau. Cytunodd y Cyngor i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon o fewn 1 mis, i ymddiheuro i Ms X am y methiannau a nodwyd, i wneud taliad iawndal o £250 am gydnabod y methiannau a £250 am y drafferth i Ms A ac am yr amser a dreuliodd yn dilyn y gŵyn. Cytunodd y Cyngor, o fewn 3 mis, i drefnu hyfforddiant atgoffa allanol ar y trothwy ar gyfer ystyried ceisiadau tai, i adolygu’r cyfathrebu rhwng ei Dîm Opsiynau Tai a’r Uned Ddigartrefedd, ac i gynnal adolygiad sampl o geisiadau tai dros y 6 mis diwethaf i weld a oedd unrhyw geisiadau tebyg eraill heb gael eu hystyried yn briodol.