Cwynodd Mr C fod Cyngor Sir y Fflint wedi methu â chasglu biniau gyda chymorth yn rheolaidd, dros gyfnod o 7 mis.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymdrin â chwyn Mr C yn unol â’i weithdrefn gwyno, ac iddo fethu cyfleoedd i ddatrys y materion yn ymwneud â chasglu biniau.
Cytunodd y Cyngor i gysylltu â Mr C a’i ffrind o fewn wythnos i drafod y pryderon. Cytunodd hefyd i ysgrifennu at Mr C o fewn wythnos i gadarnhau y byddai’n ymdrin â’r gwyn yn unol â’i weithdrefn gwyno, ac i ymddiheuro am beidio â gwneud hynny’n gynharach.