Cwynodd Ms X am y ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â chais am gyllid lleoli yn ymwneud â newid lleoliad ei mab. Mynegodd pryderon am oedi, cyfathrebu a’r modd yr oedd gweithwyr proffesiynol wedi trafod y sefyllfa yn ystod cyfarfod.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Ms X wedi cael ymateb digonol i’w chŵyn, ac nad oedd yn rhoi sylw i faterion mewn digon o fanylder. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi paratoi ymateb arall yn dilyn cyfarfod ym mis Ionawr 2025, nid oedd yr wybodaeth ychwanegol a roddwyd ganddi yn datrys y materion dan sylw. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb ymhellach i gŵyn Ms X o fewn 6 wythnos ac a fyddai’n rhoi sylw i’r holl faterion a godwyd yn ei chwynion i’r Bwrdd Iechyd ac i’r Ombwdsmon, a hefyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig iddo am beidio rhoi sylw llawn i bob rhan o’i chŵyn yn ei ymateb cyntaf.