Dyddiad yr Adroddiad

07/12/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202201010

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu casgliadau ailgylchu a gwastraff dro ar ôl tro yn dilyn newid yn y broses o gasglu ymyl y ffordd ym mis Tachwedd 2019.
Er bod y gŵyn yn cael ei throsglwyddo i Gam 2 ym mis Medi 2021, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus o nodi nad oedd wedi dod i ben eto. Felly mae’r Cyngor wedi cytuno i ymgymryd â’r cam canlynol i setlo’r gŵyn hon erbyn 28 Gorffennaf 2022:
1. Ymddiheuro am yr oedi wrth gwblhau ei ymchwiliad ac o ran ymateb.
2. Gwneud taliad amser a thrafferth o £50 am yr anhwylustod.
3. Cwblhau’r ymchwiliad a chyhoeddi ei ymateb Cam 2.