Cwynodd Mr C fod Cyngor Sir Dinbych wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w gŵyn, a wnaeth ym mis Medi 2025, ynghylch casglu sbwriel. Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â chyhoeddi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr C. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro a rhoi esboniad i Mr C am yr oedi, yn ogystal â chyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.