Cwynodd Miss A i Gyngor Caerdydd am dipio anghyfreithlon yn y rhandiroedd ger ei thŷ sy’n golygu bod llygod mawr yn dechrau ymddangos yn agos at ei heiddo.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi clirio’r gwastraff o’r ardal. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth a phryderon i Miss A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i glirio’r gwastraff anghyfreithlon o fewn 4 wythnos.