Cwynodd Ms A am y gofal a roddwyd i’w diweddar dad yn y Cartref Gofal yn dilyn digwyddiad.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cartref Gofal wedi dilyn ei Bolisi Diogelu, ond na roddodd ymateb i gŵyn Ms A. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cartref Gofal i ymddiheuro i Ms A, o fewn 4 wythnos, am fethu ag ymateb i’w chŵyn ac i ymateb i’r gŵyn.