Cwynodd Mr A fod y Cartref Gofal wedi methu â thalu balans oedd yn ddyledus iddo, ac wedi methu â chyfathrebu ag ef. Canfu’r Ombwdsmon fod y Cartref Gofal wedi methu ag anfon ymateb i gwyn Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr A.
Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad. Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cartref Gofal i gynnig ymddiheuriad ac eglurhad i Mr A – o fewn 3 wythnos – am yr oedi wrth ddarparu ymateb i’r gwyn, ac i anfon ymateb i’r gwyn.