Dyddiad yr Adroddiad

23/09/2026

Achos yn Erbyn

Trivallis

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202601293

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Trivallis wedi methu â datrys materion yn ymwneud â chyflwr ei eiddo.

Canfu’r Ombwdsmon fod angen cwblhau gwaith atgyweirio yn eiddo Mr A. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i anfon llythyr at Mr A o fewn 4 wythnos. Bydd y llythyr yn nodi’n glir amserlen o’r gwaith a’r dyddiadau amodol arfaethedig ar gyfer y gwaith hwnnw; bydd y rhain yn amodol ar gytundeb gyda Mr A.