Dyddiad yr Adroddiad

20/04/2026

Achos yn Erbyn

Hedyn

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202510382

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A wrth Hedyn am gael 10 diwrnod heb wres na dŵr poeth, a oedd wedi golygu cost ychwanegol am drydan i bweru gwresogyddion ffan. Dywedodd Miss A nad oedd yr iawndal a gynigiwyd gan Hedyn yn yn ddigon i dalu’r costau.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Hedyn wedi ystyried yn llawn yr iawndal yr oedd wedi’i gynnig. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Cafodd yr Ombwdsmon gytundeb Hedyn i, o fewn pythefnos, wahodd Miss A i gyflwyno tystiolaeth i gefnogi hawliad am ragor o iawndal. O fewn 2 wythnos o dderbyn tystiolaeth, ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd ac o fewn pythefnos i dderbyn y dystiolaeth, cyhoeddi esboniad am y cynnig terfynol y mae’n ei roi, gan nodi sut y cafodd y swm ei gyfrifo a’r dystiolaeth y dibynnwyd arni.