Dyddiad yr Adroddiad

15/05/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202509986

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A wrth y Cyngor am atgyweiriadau nad oeddent wedi cael eu cwblhau a’r diffyg cyfathrebu a gafodd. Dywedodd Miss A ei bod hi wedi
ceisio cysylltu â’r Cyngor ynghylch y gwaith atgyweirio, ond na chafodd
unrhyw ohebiaeth yn ôl ganddynt.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cwblhau’r gwaith atgyweirio. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gwblhau’r holl waith atgyweirio y mae Miss A wedi’i godi o fewn 4 wythnos.