Dyddiad yr Adroddiad

24/03/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202508722

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Cyngor Caerdydd wedi methu ag atgyweirio ei gwteri oedd yn gollwng ers Haf 2024.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gyda’r Cyngor yn mynd i’r afael ag atgyweiriadau i gwteri Ms A a achosodd rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms A, o fewn wythnos, gyda’i ymddiheuriad a chynnig o £100 am yr amser a’r drafferth. Cytunodd hefyd i adnewyddu’r gwteri o fewn chwe wythnos.