Dyddiad yr Adroddiad

21/05/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202410207

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth bod ansawdd y gwaith atgyweirio wedi methu â chyrraedd y safonau gofynnol. Canfu’r ymchwiliad fod y diffyg dogfennaeth glir yn golygu nad oedd yr Ombwdsmon yn gallu dod i gasgliad pendant bod y Cyngor wedi gwneud y gwaith atgyweirio’n brydlon. Felly, cafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y Cyngor wedi ystyried effaith yr atgyweiriadau ar Miss C a’i theulu. Er bod y Cyngor wedi gwrthod ei symud dros dro i eiddo arall, rhoddodd sicrwydd iddi a nododd gamau fel y gellir gwneud y gwaith gyda chyn lleied â phosib o darfu ac effaith ar Miss C a’i theulu. Yn unol â hynny, nid oedd cadarnhad dros yr elfen hon o’r gŵyn.

Roedd yr argymhellion a wnaeth yr Ombwdsmon i’r Cyngor yn cynnwys ymddiheuro i Miss C yn ysgrifenedig am y methiannau a nodwyd gan yr ymchwiliad hwn. Cytuno ar amserlen waith a threfnu dyddiad gyda Miss C ar gyfer cwblhau gweddill y gwaith atgyweirio gan nodi’r telerau yn ysgrifenedig. Atgoffa ei staff o fewn y Tîm Tai i ddogfennu gweithgareddau/camau gweithredu fel bod trywydd archwilio priodol. Adolygu ei brosesau cadw cofnodion a’i gyfathrebiadau ochr yn ochr â chanllawiau statudol Materion Rheoli Cofnodion yn Dda yr Ombwdsmon. Paratoi cynllun gweithredu sy’n nodi unrhyw feysydd i’w gwella a’r camau gweithredu i fynd i’r afael â’r rhain. Yn olaf, cynnal archwiliad i sicrhau bod prosesau cadw cofnodion a chyfathrebu wedi’u gwreiddio’n briodol.