Dyddiad yr Adroddiad

24/08/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202601996

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C nad oedd y cyfleusterau ystafell ymolchi’n gweithio pan osododd Gyngor Abertawe eiddo Tai Gwarchod iddi.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gweithredu’n brydlon i atgyweirio problemau gyda’r thermostat a’r gawod, ond nad oedd wedi cydnabod yn iawn yr anhwylustod a’r trallod i Mrs C, oedd wedi methu â defnyddio’r gawod am nifer o ddiwrnodau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor y byddai, o fewn un mis, yn cynnig £250 i Mrs C i gydnabod yr anhwylustod a’r trallod.