Cwynodd Miss A fod Cyngor Abertawe wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ynghylch gwaith atgyweirio i’w chartref.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi bod yn gohebu â Miss A ynghylch y gwaith atgyweirio a chyflwr yr eiddo, nid oedd wedi rhoi ymateb terfynol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Miss A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymateb terfynol i gŵyn Miss A, o fewn 4 wythnos, sy’n nodi beth mae’r Cyngor wedi’i wneud hyd yma, pa waith sydd ar ôl i’w wneud, esboniad o’r camau y mae angen i Miss A eu cymryd, a dyddiad targed ar gyfer cwblhau’r gwaith. Dylai’r ymateb hefyd gynnwys dyddiad ar gyfer archwiliad neu ddyddiad pan fydd y gwaith atgyweirio wedi’i gwblhau, ar yr amod bod Miss A yn cymryd y camau a nodir yn yr ymateb