Dyddiad yr Adroddiad

20/04/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202510625

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Cyngor Abertawe (“y Cyngor”) wedi cymryd camau priodol i fynd i’r afael â’r llifeiriant yn ei gardd. Dywedodd, pan wnaeth gŵyn, na chafodd ymateb a phan ddaeth swyddogion y cyngor i archwilio, bu iddynt ‘edrych’ ond ni chymerwyd unrhyw gamau.

Canfu’r Ombwdsmon fod cwyn Ms A wedi cael ei huwchgyfeirio i gam 2, ond nad oedd ymateb wedi cael ei gyhoeddi. Rhoddwyd gwybodaeth i’r Ombwdsmon a oedd yn dangos bod y Cyngor wedi bod yn ymchwilio i achos y llifeiriant ond nad oedd unrhyw ddiweddariadau o’r ymchwiliad wedi cael eu darparu i Ms A.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y bydd y Cyngor, o fewn 4 wythnos i gyhoeddi’r llythyr hwn yn:

• Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms A am yr ymchwiliad a’r gwaith parhaus i ddatrys ei chŵyn a chyhoeddi ymateb i gŵyn cam 2.