Dyddiad yr Adroddiad

24/07/2026

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Newydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202600080

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Miss B am y camau a gymerwyd gan Gymdeithas Tai Newydd mewn ymateb i’w hadroddiadau am bla o lygod mawr yn ei heiddo o Awst 2025 i Ionawr 2026 ac i adroddiadau am ddiffygion llwydni a strwythurol a wnaed rhwng 31 Ionawr 2025 ac Ionawr 2026. Yn ogystal, cododd Miss B bryderon ynghylch y camau a gymerwyd gan y Gymdeithas Tai i sicrhau llety amgen addas iddi hi a’i theulu ym mis Ionawr 2026.

Mewn ymateb i ymchwiliad yr Ombwdsmon, cadarnhaodd y Gymdeithas Tai ei bod wedi cynnal adolygiad manwl o gŵyn Miss B. Dywedodd ei bod wedi cydnabod methiannau, bod y safon yn is na’r disgwyliadau a chynigiodd gymryd camau i’w datrys.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i ymddiheuro i Miss B am y methiannau a nodwyd o fewn 4 wythnos. Yn ogystal, cytunodd i ddarparu taliad iawndal ariannol o £4976 i adlewyrchu methiannau wrth drin cwynion, colli gwasanaeth a’r gofid a’r anghyfleustra a achoswyd. Cytunodd y Gymdeithas Tai, o fewn 3 mis, i adolygu ei gweithdrefnau i sicrhau bod materion yn cael eu datblygu’n gyflymach, cryfhau goruchwyliaeth o reoli achosion, a gwella cadw cofnodion i gefnogi trin achosion tebyg yn fwy effeithiol yn y dyfodol.