Cwynodd Mr B fod Cymdeithas Tai Newydd wedi methu â mynd i’r afael yn briodol â’i bryderon ynghylch ei foeler.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi methu â chofnodi pryderon Mr B fel cwyn ffurfiol a bod cyfathrebu â Mr B wedi methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ysgrifennu at Mr B gydag ymddiheuriad am y methiant i gofnodi ei bryderon fel cwyn ffurfiol, darparu ymddiheuriad pellach am y diffyg cyfathrebu clir, cadarnhau’r amserlen ar gyfer atgyweiriadau i’w gwneud, a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.