Dyddiad yr Adroddiad

26/03/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Atebolrwydd a bod yn agored

Cyfeirnod Achos

202407970

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Rhondda Cynon Taf (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Honnodd yr Achwynydd, a oedd yn gweithio i’r Cyngor, ar ôl iddo wneud cwyn am y ffordd yr oedd yr Aelod (yn rhinwedd ei swydd fel Llywodraethwr Ysgol), wedi ymchwilio i ddigwyddiad yn ysgol ei blentyn, ei bod wedi gwneud cwyn ddialgar yn ei erbyn i Bennaeth ei Adran yn y Cyngor. Yn dilyn hynny, ataliodd adran Adnoddau Dynol y Cyngor ef o’i waith tra’r oeddent yn ymchwilio. Teimlai’r Achwynydd fod hwn yn ymgais fwriadol i achosi anfantais iddo yn ei fan gwaith, ac felly’n achos o dorri’r Cod, yn benodol adrannau 6(1)(a) a 7(a).

Canfu’r ymchwiliad ei bod yn gwbl resymol i Aelodau fynegi pryderon am staff. Roedd rhai anghysondebau yn adroddiad yr Aelod ynglŷn â natur ei phryderon am yr Achwynydd, yr amseriad a’r sianel y dewisodd fynd ar drywydd y pryderon, yn ogystal â’r hyn yr oedd yn ei ddeall, ac yn bwriadu ynghylch y canlyniadau posib. Fodd bynnag, nid oedd digon o dystiolaeth uniongyrchol na chymhellol mai’r unig reswm neu’r prif reswm dros fynegi ei phryderon oedd achosi anfantais i’r Achwynydd, ac, felly, nid oedd tystiolaeth ei bod wedi torri’r Cod.