Dyddiad yr Adroddiad

23/03/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Asesiad Gofal Cymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202406493

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Fe wnaethom ymchwilio i gŵyn Mrs A ynghylch a oedd y Cyngor wedi glynu wrth y canllawiau, y rheoliadau a’r cod ymarfer cysylltiedig priodol mewn perthynas â 2 asesiad gofalwyr a’r penderfyniad a wnaed gan y Cyngor i wrthod seibiant dros nos fel yr argymhellwyd yn y ddau asesiad.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd yr asesiad gofalwyr yn cynnwys yr elfennau allweddol sy’n ofynnol o dan y cod perthnasol. Er bod yr ail asesiad wedi nodi’r effaith emosiynol a chorfforol ar Mrs A oherwydd ei rôl ofalu, ac nad oedd hi wedi bod yn cael seibiannau digonol, nid oedd yr asesiad yn integreiddio dadansoddiad manwl o anghenion ymddygiad ei mab, B, ei batrymau cysgu, a lefel dibyniaeth yn ddigonol i mewn i resymeg glir, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ar gyfer darparu seibiant dros nos. Mae’n debyg bod hyn wedi effeithio ar y penderfyniad i wrthod seibiant dros nos. Roedd y diffygion hyn yn y broses asesu yn gyfystyr â methiant gwasanaeth a achosodd anghyfiawnder i Mrs A. Cadarnhawyd y gŵyn hon.

Er bod penderfyniad y panel i wrthod seibiant dros nos yn seiliedig ar y wybodaeth a oedd yn yr asesiad yn debygol o fod wedi bod yn briodol, gellid bod wedi hwyluso rhai o’r camau gweithredu a gynigiwyd yn gynt. Roedd hwn yn ddiffyg a oedd yn debygol o oedi’r broses o wneud penderfyniadau. Cadarnhawyd y gŵyn i’r graddau cyfyngedig hyn.