Dyddiad yr Adroddiad

07/09/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Asesiad Gofal Cymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202505350

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r cymorth a ddarparwyd i’w theulu gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ystyriodd yr ymchwiliad a gafodd cynlluniau gofal a chymorth, a luniwyd rhwng 2023 a 2024, eu llunio a’u hadolygu yn unol ag arferion priodol, ac a dderbyniodd Mrs B a’u teulu gymorth a chyfathrebu priodol yn ystod y cyfnod hwn.

Canfu’r Ombwdsmon na luniwyd y cynlluniau gofal a chymorth yn unol ag arferion priodol, ac na chawsant eu hadolygu na’u diwygio pan ddaeth yn amlwg na ellid eu cyflawni. Ni dderbyniodd Mrs B a’u teulu gymorth na chyfathrebu priodol. Ni chawsant wybodaeth yr oedd ganddynt hawl i’w chael. Hefyd, ni chafodd Mrs B asesiad amserol o’i hanghenion fel gofalwr. Roedd y rhain yn fethiannau ar ran y Cyngor ac yn anghyfiawnder i Mrs B a’i theulu. Cadarnhawyd cwynion Mrs B.

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mrs B, darparu copïau o’r cynlluniau gofal a chymorth a luniwyd iddi, a chynnig iawndal ariannol o £500 iddi. Cytunodd hefyd i sicrhau bod swyddogion perthnasol yn ymwybodol o’r gofynion sy’n ymwneud â llunio cynlluniau gofal a chymorth, ac o’r angen i gynnig asesiadau i ofalwyr; i ddatblygu proses i sbarduno adolygiad o gynlluniau gofal a chymorth pan na ellir eu gweithredu; i ystyried ffyrdd y gellir mynd i’r afael ag anghenion teuluoedd gwledig yn y broses o gynllunio gofal a chymorth; ac i roi mesurau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth briodol yn cael ei darparu ynghylch taliadau uniongyrchol a threfniadau cynorthwywyr personol.