Dyddiad yr Adroddiad

31/03/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Asesiad Gofal Cymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202509223

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd yr oedd ei gŵyn, ynghylch safon y gofal a gafodd ei fab gan adran Gwasanaethau Cymdeithasol Plant y Cyngor, wedi cael ei thrin gan y Cyngor. Yn benodol, nad oedd ei gŵyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i huwchgyfeirio i Gam 2, a bod oedi wedi bod cyn diweddaru cwynion.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cydnabod ac ystyried cwyn Mr A yng Ngham 1, methodd â’i huwchgyfeirio i Gam 2. Ar ben hynny, oedodd y Cyngor cyn diweddaru Mr A yn dilyn cyfarfod cwynion, a dywedodd Mr A fod hynny wedi achosi anghyfleustra ac ansicrwydd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor, o fewn 2 fis i gyhoeddi’r llythyr penderfyniad, i ysgrifennu at Mr A i ymddiheuro am yr oedi cyn diweddaru ac am beidio â huwchgyfeirio ei gŵyn i Gam 2. Cytunodd hefyd i gychwyn ymchwiliad i gwynion Cam 2 a phenodi Ymchwilydd Annibynnol.