Cwynodd Mrs A, yn dilyn ei chwyn i Gyngor Bro Morganwg, nad oedd wedi darparu ymateb i’r gŵyn yng Ngham 2.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y gŵyn wedi’i huwchgyfeirio i’r weithdrefn Cam 2, nad oedd Mrs A wedi derbyn yr ymateb terfynol i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi’r ymateb terfynol i’r gŵyn yng Ngham 2 o fewn 6 wythnos, ymddiheuro a rhoi esboniad am yr oedi.