Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn fod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Conwy (“y Cyngor Tref”) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”). Honnwyd fod yr Aelod wedi cynnwys gwybodaeth anghywir yn fwriadol ynghylch camau gorfodi’r Cyngor mewn sylwadau (“yr Wrthwynebiad”) a gyflwynodd i’r Cyngor mewn perthynas â chais cynllunio parhaus yr Achwynydd (“y Cais Cynllunio”).
Dechreuodd Swyddfa’r Ombwdsmon ymchwiliad i ystyried paragraffau 6(1)(a) (dwyn anfri) a 7(a) (camddefnyddio safle) y Cod. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor a’r Cyngor Tref, gan gynnwys dogfennau yn ymwneud â’r Cais Cynllunio a phrosesau cynllunio, ymgynghori, penderfynu a gorfodi’r Cyngor.
Canfu’r ymchwiliad fod y wybodaeth a gynnwysodd yr Aelod yn yr Wrthwynebiad yn gywir, a bod y camau a gymerwyd ganddi mewn perthynas â gwneud sylwadau ar y Cais Cynllunio yn gamau yr oedd ganddi hawl i’w cymryd. Canfu’r ymchwiliad hefyd nad oedd Gwrthwynebiad yr Aelod wedi effeithio ar ganlyniad y Cais Cynllunio ac fe’i cymeradwywyd yn y pen draw. Daethpwyd i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu methiant i gydymffurfio â’r Cod.