Cwynodd Ms C fod Tai Cymunedol Bron Afon Cyf wedi methu rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon iddi ar y camau yr oedd yn eu cymryd ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol cymydog.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi ymrwymo i roi diweddariadau bob pythefnos i Ms C. Er bod diweddariadau wedi cael eu darparu ar gyfer y tri mis cyntaf, bu bwlch o dri mis cyn i’r diweddariad nesaf gael ei ddarparu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ysgrifennu at Ms C o fewn mis i ymddiheuro am beidio â chyflawni ei hymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi ac i egluro pa gamau pellach y mae’n bwriadu eu cymryd i fodloni ei safonau gwasanaeth o ran cyfathrebu.