Cwynodd Miss C fod oedi y gellid bod wedi’i osgoi wrth i Gyngor Sir Powys ystyried a diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol ei merch.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymddiheuro am beidio â chyflawni’r amserlen statudol, fod y rhesymau dros yr oedi wedi’u hegluro’n wael. Nid oedd Miss C bob amser wedi derbyn gwybodaeth gywir nac amserol am brosesau’r Cyngor na’r penderfyniadau a wnaeth y Cyngor. Creodd yr oedi a’r cyfathrebu gwael ansicrwydd i Miss C ynghylch sut y byddai anghenion ei merch yn cael eu diwallu ac fe’i hataliodd rhag apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Mewn ymateb i ymholiadau’r Ombwdsmon, trefnodd y Cyngor i’r mater gael ei ystyried gan y panel Anghenion Dysgu Ychwanegol. Ceisiodd yr Ombwdsmon hefyd gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss C, o fewn 1 mis, am y cyfathrebu gwael ac am beidio â’i hysbysu o benderfyniadau. Cytunodd hefyd i gyhoeddi hysbysiad ffurfiol o benderfyniad diweddar y panel o fewn mis i ddyddiad y panel.