Dyddiad yr Adroddiad

26/05/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) / Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

Cyfeirnod Achos

202507781

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C nad oedd Cyngor Caerdydd wedi darparu addysg amser llawn i’w fab, A, ers iddo ddechrau derbyn gofal dair blynedd ynghynt. Cwynodd Mr C fod addysg ei fab wedi cael ei amharu’n sylweddol, gan gyfyngu ar ei botensial yn y dyfodol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi bod yn ddigon rhagweithiol o ran dod o hyd i ddarpariaeth addysg a oedd yn briodol i anghenion a galluoedd A. Mae gan A Anghenion Dysgu Ychwanegol ac nid oedd y ddarpariaeth ddysgu a nodir yn ei Gynllun Datblygu Unigol wedi cael ei chyflwyno. Ar ben hynny, nid oedd y Cyngor wedi cydymffurfio â’i ddyletswyddau cyfathrebu â Mr C o dan y Cod Ymarfer ar Anghenion Dysgu Ychwanegol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Mewn ymateb i ymholiadau’r Ombwdsmon, cymerodd y Cyngor gamau i fynd i’r afael ag anghenion addysg uniongyrchol A. Mae’r Cyngor hefyd wedi nodi cynllun cynhwysfawr i gefnogi A dros y tair blynedd nesaf. Yn ogystal â’r camau a gymerwyd eisoes, cytunodd y Cyngor i ysgrifennu at Mr C ac A o fewn mis, i ymddiheuro am fethiannau’r gwasanaeth a chadarnhau’r cynlluniau ar gyfer cymorth ac adolygiad yn y dyfodol. Cytunodd i adolygu Cynllun Datblygu Unigol A o fewn dau fis, ac adolygu cynnydd o fewn 5 mis. At hynny, cytunodd y Cyngor i gymryd camau i sicrhau nad oedd diffyg darpariaeth yn effeithio ar blant eraill sy’n derbyn gofal a’u rhieni yn yr un modd.