Dyddiad yr Adroddiad

20/07/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Anfoesgarwch/ ymddygiad anystyriol/ agwedd staff

Cyfeirnod Achos

202601081

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Caerdydd wedi mynd i’r afael â’r atgyweiriadau angenrheidiol i’w foeler. Dywedodd, pan gysylltodd â’r Cyngor i roi gwybod am y mater, ei fod yn teimlo bod ei bryderon wedi cael eu diystyru, a bod tôn y swyddog yn ystod yr alwad yn ymosodol. Cwynodd Mr A hefyd am y cyfyngiadau cyswllt a osodwyd o dan Bolisi Camau Gweithredu Annerbyniol gan Gwsmeriaid y Cyngor. Dywedodd nad oedd y Cyngor wedi rhoi cadarnhad ysgrifenedig iddo o’r cyfyngiadau, nac esboniad o’r hyn a fyddai’n gyfystyr ag argyfwng.

Nododd yr Ombwdsmon fod Mr A wedi codi pryderon gyda’r Cyngor ynghylch y boeler, ond nad oedd y Cyngor wedi rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol. Nododd yr Ombwdsmon hefyd nad oedd Mr A wedi cyflwyno cwyn ffurfiol am y cyfyngiadau cyswllt a osodwyd gan y Cyngor. Ystyriodd yr Ombwdsmon y gellid datrys y gŵyn heb yr angen am ymchwiliad ffurfiol.

Er mwyn hwyluso’r datrysiad hwn, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi ymateb ysgrifenedig i Mr A, o fewn mis, a oedd yn mynd i’r afael yn benodol â’r pryderon a godwyd yn ei gŵyn i’r Ombwdsmon.