Cwynodd Ms C fod anghywirdebau yn ymateb Cafcass Cymru i’w chwyn, ac na chafodd ei phryderon sylw digonol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon na chafodd cwyn ynglŷn â chyfathrebu â gweithiwr proffesiynol arall ei hymchwilio’n ddigonol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y sefydliad i wneud ymholiadau pellach ac ysgrifennu at Ms C gyda chanlyniad yr ymholiadau o fewn mis.